Mae Tîm o Amgylch y Plentyn Blaenau Gwent yn ffordd newydd o gefnogi plant a phobl ifanc. Bydd yn sicrhau fod pob asiantaeth yn cydweithio i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i bob plentyn neu berson ifanc sy’n manteisio o’r rhaglen. Yn dilyn asesiad cyfannol o anghenion y plentyn neu berson ifanc (yn defnyddio’r Fframwaith Asesu Cyffredin), penodir gweithiwr allweddol i weithio gyda’r plentyn, person ifanc, aelodau teulu ac asiantaethau eraill i ddatblygu cynllun cefnogaeth unigol.




