Ymgymerir gyda gwasanaethau iechyd a lles gan Swyddogion Iechyd Anifail yn yr Adran Iechyd yr Amgylchedd o’r Adran Diogelu’r Cyhoedd.
Gweithgareddau:
-
Arolygu pob mangre busnes sydd yn cynnwys anifeiliaid i sicrhau cydymffurfiad gyda’r safonau perthnasol a hyrwyddo materion budd.
- Ymateb i geisiadau gwasanaethau brys yn ddi-oed a chwynion eraill o fewn pum diwrnod.
- Gweinyddu system drwyddedu ar gyfer symudiad anifeiliaid.
- Monitro symudiadau da byw drwy’r Fwrdeistref Sirol drwy arosiadau ar hap a statig a gwiriadau ‘golau glas’ wrth ochr ffordd.
- Trwyddedu sefydliadau anifeiliaid yn unol â’r ddeddfwriaeth.
- Dosbarthu pamffledi canllaw a chodau ymarfer i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o ofynion lles cyfreithiol.
- Cynorthwyo’r Gwasanaeth Milfeddygol Gwladol gyda gorfodaeth o gyfyngiadau yn ystod toriadau o glefydau hysbysadwy.
- Cysylltu gyda’r Gwasanaeth Milfeddygol Gwladol ar weithrediad polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer polisïau iechyd a lles anifeiliaid, gan gynnwys cynllunio wrth gefn.
- Cysylltu gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau gorfodaeth eraill i sicrhau bod gweithredu wedi ei gyd-drefnu a chydweithredu ar faterion traws ffiniol a chyfeiriadau.
- Datblygu cysylltiadau pellach gyda sefydliadau sydd yn ymwneud gyda da byw a masnach anifeiliaid cyfaill gyda golwg o wella safonau lles.
Bydd Swyddogion Iechyd Anifeiliaid yn ymdrechu i sicrhau bod ceidwaid a pherchnogion yn ymwybodol o ofynion cyfreithiol a chyfrifoldebau dyletswyddau gofal, gan ddarparu cyngor a chymorth pan ofynnir amdano.
TALGRYNNU
Mae ein gwaith lles anifeiliaid yn ymwneud gyda lles anifeiliaid, rheoli afiechyd anifeiliaid a materion y gadwyn fwyd.
Bydd y rhan fwyaf o’r da byw i ni yn delio gyda, ar ryw bwynt, yn cyfrannu i’r gadwyn fwyd. Mae ein gwaith yn chwarae rhan allweddol mewn sicrhau bod yr anifeiliaid wedi ei magu a’u cadw yn nol y safonau sydd yn cael eu hadnabod yn rhai dynol. Mae rheoli afiechyd hefyd yn hanfodol i’r economi gwledig fel y tystiolaethir gan effeithiau difrodus y clefyd clwy’ traed a’r gennau. Gall yr hyn sydd i’w weld ar yr olwg gyntaf yn ymarfer gwaith papur biwrocratig ein harbed rhag toriad clefyd hysbysadwy tebyg. Mae bioddiogelwch yn hanfodol a dylai fod yn rhan reolaidd o ddyletswyddau pob dydd ar y fferm, marchnad da byw, lladd-dy a lleoliadau eraill megis maes sioe.
Mae ein swyddogion yn cydnabod bod y diwydiant da byw wedi newid yn radical dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym yn gwneud pob ymdrech i orfodi’r ddeddfwriaeth mewn modd teg a phragmatig.
Mae yna nifer o resymau pam nad yw ffermwyr yn cydymffurfio gyda deddfwriaeth, fel y dylent. Rydym yn sensitif iawn i’r posibiliadau y gall ffermwr am ba reswm bynnag fod yn ddioddef o straen. Gall hyn olygu fod materion yn cael eu hosgoi a/neu yn cael eu hanwybyddu. Rydym yn gwneud pob ymdrech i’r perwyl hwnnw i gadw i fyny gyda datblygiadau yn y maes yma i’n helpu ni i ddeall y materion yn well ac i ddarparu help a chymorth lle bo’n briodol.
Peidiwch ag aros hyd nes ei fod yn rhy hwyr os gwelwch yn dda, cysylltwch gyda Swyddog Iechyd Anifeiliaid am gyngor.




