Mae cerbyd cymunedol Ffau’r Ddraig yn rhoi dewis cyffrous o wasanaethau i deuluoedd, plant a phobl ifanc o fewn eu cymuned eu hunain. Mae’r bws yn cynnwys
- Ardal ymlacio
- Teledu
- DVD a cherddoriaeth
- Ardal chwarae yn cynnwys pwll tywod
- Gorsafoedd gwaith technoleg gwybodaeth
-
Cyfleusterau newid babanod
Mae’r bws yn ymweld â nifer o drefi ar draws Blaenau Gwent yn cynnig rhaglenni cefnogaeth gymunedol yn cynnwys Magu Plant, Iaith a Chwarae a Tylino Babanod. Mae’r bws hefyd yn mynychu nifer fawr o ddigwyddiadau cymunedol megis y Diwrnod Chwarae Cenedlaethol, ‘Big Toddle’ Barnado’s ac mae'n ymweld yn rheolaidd â marchnad Glyn Ebwy ar ddyddiau Gwener.




