Anabledd

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diogelu hawliau pobl ag anabledd i sicrhau bod ganddynt yr un hawliau â rhywun heb anabledd. Mae'r Ddeddf yn berthnasol mewn nifer o sefyllfaoedd, o gyflogaeth i drafnidiaeth, o eiddo i addysg. Mae'r Ddeddf hefyd yn golygu ni all ddarparwyr addysg (gan gynnwys ysgolion, colegau a phrifysgolion) gwahaniaethu yn erbyn rhywun sydd ag anabledd, a rhaid cefnogi pobl ag anableddau mewn addysg. Mae hefyd yn golygu bod yn rhaid i ddarparwyr addysg rhoi cymorth priodol a chefnogaeth i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr ag anableddau.
 
Yn hytrach na chynnwys rhestr bendant o amodau ac anableddau, mae'r Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn edrych ar effaith y cyflwr i benderfynu a yw'n anabledd ar gyfer unrhyw unigolyn penodol. Mae person yn cael ei ystyried i fod yn anabl os oes ganddynt nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau o ddydd i ddydd. Mae sylweddol yn golygu nid dibwys neu fân, ac mae hirdymor fel arfer yn golygu am o leiaf 12 mis. Mae gweithgareddau o ddydd i ddydd yn cynnwys pethau fel symud o gwmpas eich cartref neu weithle heb unrhyw anhawster mawr, yn gallu cofio ac yn canolbwyntio ar eich gwaith, a'r gallu i fwrw ymlaen â bod yn aelod o'r teulu, yn ffrind, cydweithiwr neu gymudwyr yn union fel unrhyw un arall.
 
Mae gwahaniaethu yn erbyn person sydd â, neu a ystyrir i fod â, nam corfforol neu feddyliol o ryw fath yn anghyfreithlon, ond gallai ddigwydd ar unrhyw adeg o gyswllt rhywun gyda'r Cyngor hyd yn oed yn anfwriadol. Gallai hyn fod fel defnyddiwr gwasanaeth cyfwelai swydd, gweithwyr presennol, aelod etholedig neu ymwelydd gan sefydliad partner ac felly mae'n rhaid i'r Cyngor sicrhau bod mynediad i'w adeiladau o ran gwasanaethau, yn gorfforol a thrwy gyfathrebu felly mor eang â phosibl.
 
Mae Cyngor Bwrdeistef Sirol Blaenau Gwent wedi gweithio yn galed dros y blynnyddoed diwethaf i'w wneud ein adeiladau yn addas I bobl anabl ac fe fydd yn parhau gyda'r gwaith.
 
Ers y 2ail o Ebrill 2012, nid oes gan y Cyngor Cynllun Cydraddoldeb Anabledd penodol, yn hytrach y mae wedi nodi'r ymrwymiadau Anabledd o fewn Cynllun Cydraddoldeb Sengl cyntaf y Cyngor.
 
Bu Blaenau Gwent yn rhedeg y Fforwm Mynediad i Bawb ers nifer o flynyddoedd. Mae manylion pellach am y rhwydwaith dylanwadol hwn ar gael yn adran Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y wefan yma.