Bydd yr Adran Iechyd yr Amgylchedd yn ymateb i gwynion am lygredd aer. Mae cwynion nodweddiadol yn ymwneud â mwg a ddaw o goelcerthi, mwg tywyll a ddaw o simneiau diwydiannol, llwch o safleoedd adeiladu ac aroglau o ffatrïoedd neu siopau. Bydd pob achos yn cael ei ystyried yn unigol gan swyddog ymchwilio, ond bydd y mwyafrif o achosion yn disgyn o dan Ddeddf Amddiffyn yr Amgylchedd 1990.
Mae Rhan 3 o’r Ddeddf Amddiffyn yr Amgylchedd 1990 yn gosod dyletswydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i gymryd pob cam rhesymol i ymchwilio i mewn i niwsans statudol a gaiff ei amau. Byddai Niwsans Statudol yn cynnwys coelcerthi myglyd, aroglau o safleoedd diwydiannol (nid eiddo domestig) a llwch o safleoedd adeiladu. Os bydd y swyddog ymchwilio yn fodlon bod niwsans statudol yn bodoli, mae’r gyfraith yn gofyn fod yn rhaid cyflwyno hysbysiad sydd yn golygu fod yn rhaid lleihau’r niwsans. Mae’r person sydd yn methu â chydymffurfio gyda gofynion yr hysbysiad yn medru cael eu herlyn ac os cânt eu canfod yn euog gallant dderbyn dirwy o £5000 am bob un trosedd (£20,000 mewn achos eiddo masnachol).
Mae’r Ddeddf Aer Glân 1993 yn rheoli allyriad mwg tywyll neu ddu o fangre masnachol neu ddiwydiannol. Mae hyn fel arfer yn ymwneud â mwg tywyll neu ddu a ddaw o simneiau neu o losgi agored e.e. llosgi cebl. Mae hefyd yn drosedd i gynhyrchu mwg tywyll neu ddu o simneiau domestig.
Yn ogystal ag ymchwilio i gwynion am achosion llygredd aer, mae’r Tîm Iechyd yr Amgylchedd yn rhoi trwyddedau i fathau penodol o fusnesau. Mae’r Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Lloegr a Chymru) 2000 yn rhoi rheolaeth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent dros agweddau penodol o weithrediadau'r busnesau yma. Mae’n anghyfreithlon i’r busnesau yma i weithredu heb drwydded/caniatâd dilys.
Pori yn ôl Gwasanaeth:
Llygredd
Manylion Cyswllt
I adrodd digwyddiad neu i dderbyn cyngor ar lygredd aer ffoniwch (01495) 357813






