Mae’r Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Chefnogaeth Gorfforaethol yn gyfrifol am reoli’r
Adran hon o ddydd i ddydd. Mae’r Adeiniau Cyfreithiol ac Ystadau yn cynnwys tîm o bersonél cymwys ac anghymwys, sydd yn gyfrifol am ystod o ddyletswyddau cyfreithiol a gweinyddol sydd yn darparu gwasanaeth cyfreithiol, ystadau a phrisio cynhwysfawr i’r Cyngor.
Mae’r Adran yn cynnwys 24 o staff llawn amser.
Mae’r gwasanaethau yma ar y cyfan yn wasanaethau cefnogi mewnol a rhaid cynllunio darpariaeth gwasanaeth yn unol ag anghenion y cleientiaid mewnol.
Nod allweddol yr Adran yw darparu gwasanaeth cyflawn a safonol sydd yn gynhwysfawr ac effeithiol ac yn diwallu anghenion yr holl gwsmeriaid.
Y Prif Swyddog Cyfreithiol, Dylan John, yw Swyddog Monitro'r Cyngor yn unol ag Adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1998. Y Prif Swyddog Cyfreithiol hefyd yw’r Swyddog Cofrestru Etholiadol a’r Swyddog Canlyniadau. Y Swyddog Cyfansoddiadol yw’r Dirprwy Swyddog Monitro a Phennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol yw’r Swyddog Cywir ar gyfer Cofrestru Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau.
NOD - Drwy gefnogi amcan cyffredinol y Cyngor, bydd yr Adain yn "cefnogi’r Cyngor i wireddu’r amcanion yma yn gyfreithiol ac yn briodol drwy ddarparu gwasanaeth cyfreithiol a phrisio/rheoli ystadau mewnol , sydd yn ymateb i anghenion ac adnoddau ein cwsmeriaid.”
DATGANIAD O FWRIAD - Darparu gwasanaeth cyflawn a safonol sydd yn gynhwysfawr ac effeithiol ac yn diwallu anghenion yr holl gwsmeriaid.
BYDDWN YN
- Darparu gweithlu hyblyg ac arbenigol
- Adnabod dymuniadau ein cleientiaid
- Yn darparu cyngor amserol a chywir i’n cleientiaid
- Yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’n cleientiaid am y gwaith o dan law
- Cyflawni a chynnal targedau perfformiad
- Adolygu’r gwasanaeth yn gyson
- Ymgynghori â’n cleientiaid
DISGRIFIAD O’R GWASANAETH -
- Cyngor Cyfreithiol Corfforaethol
- Cymorth Cyfreithiol i gwsmeriaid
- Eiddo, Cyfreitha, trawsgludo, cynllunio, masnachol, trwyddedu, priffyrdd etc.
- Gwasanaeth Ystadau/Prisio i gwsmeriaid
- Mynychu cyfarfodydd pan fo angen
- Eiriolaeth
- Cyngor i ysgolion - SLA
- Cyngor, cymorth a chyfarwyddyd ar ddiffinio a gweithredu deddfwriaeth newydd





