Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Deddf Cydraddoldeb 2010
Mae Cyngor Blaenau Gwent yn sylweddoli y gall pobl fod yn wynebu gwahaniaethu a bod dan anfantais am nifer o resymau. Mae ganddo oblygiad moesol a statudol i adlewyrchu anghenion cymuned amrywiol drwy ei ddarpariaeth gwasanaeth ac fel cyflogydd. Mae’n ymrwymedig i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ar draws ein holl wasanaethau a sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb. Mae’r Ddeddf yn rhoi tegwch yng nghanol cymdeithas, yn cydgordio cyfraith gwahaniaethu, yn cryfhau’r gyfraith i gefnogi cynnydd ar gydraddoldeb a datganoli’r cyfrifoldeb am wahaniaethu i Gymru.
Mae’r Ddeddf yn cyfuno’r 116 gwahanol ddarn o ddeddfwriaeth cydraddoldeb ac yn rhoi hawl i bobl beidio cael eu trin yn llai ffafriol gan awdurdodau cyhoeddus.
Y nodweddion diogeledig (meysydd) y mae dyletswydd cydraddoldeb cyffredinol y sector cyhoeddus yn weithredol iddynt yw:
1. Oedran
2. Anabledd
3. Statws ailaseino rhyw
4. Beichiogrwydd a mamolaeth
5. Hil
6. Crefydd a chredo
7. Rhyw
8. Tueddfryd rhywiol
9.Priodas a Phartneriaeth Sifil
Nid yw’r Iaith Gymraeg yn rhan o’r Ddeddf Cydraddoldeb gan y daw o fewn ei ddarn penodol ei hun o ddeddfwriaeth – Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 – ond nid yw’n dim llai pwysig.
Y prif bwyntiau o ddiddordeb
Daeth y dilynol i rym ar 6 Ebrill 2011:
• Dyletswydd cydraddoldeb cyhoeddus cyffredinol (mae hyn yn ymestyn y dyletswyddau cyhoeddus i oedran, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gredo, ailaseiniad rhyw, hefyd yn cynnwys beichiogrwydd a mamolaeth). Cafodd y cyfrifoldeb am hyn ei ddatganoli i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae angen rhoi ystyriaeth ddyledus i’r angen i:
• Dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon
• Hybu cyfle cyfartal
• Meithrin cysylltiadau da
• Cynnwys cyflogaeth a darpariaeth nwyddau a gwasanaethau (staff a’r cyhoedd sy’n cael mynediad i wasanaethau)
• Cynnwys 8 o’r nodweddion a ddiogelir - nid Priodas a Phartneriaeth Sifil.
Cafodd dyletswyddau penodol eu creu i gefnogi cydymffurfiaeth o’r Ddyletswydd Cydraddoldeb.
1. Gosod amcanion cydraddoldeb erbyn 2 Ebrill 2012
2. Ymgynghori a chynnwys
3. Asesu effaith (Asesiadau Effaith ar Gydradoldeb)
4. Adrodd cynnydd ar amcanion
5. Tâl rhywiau a segregeiddio swyddi
6. Caffaeliad sector cyhoeddus
7. Sut mae arolygu’n cefnogi’r agenda cydraddoldeb
8. Adrodd gan Weinidogion Cymru
Cafodd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol
(yn cynnwys yr amcanion cydraddoldeb a chynllun gweithredu cysylltiedig) ei gytuno gan y Cyngor llawn ar 22 Mawrth a daw i rym ar 2 Ebrill 2012.






