Mae Diogelwch Cymunedol am wneud llefydd yn fwy diogel i fyw a gweithio. Mae pawb, gan eich cynnwys chi, rôl i’w chwarae i wneud eich cymuned yn lle diogel i fyw a gweithio o’i fewn.
Mae Blaenau Gwent Mwy Diogel yn anelu i weithio o fewn eich cymuned i fynd i’r afael gyda’ch pryderon a’ch blaenoriaethau.
Gwnaeth y Ddeddf Trosedd ac Anrhefn 1998 hi’n ddyletswydd statudol ar yr Awdurdod Lleol a’r Heddlu i weithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â throsedd, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnydd o doddyddion ar draws y Fwrdeistref Sirol. Dyma rai o’n partneriaid:
- Awdurdod Heddlu Gwent
- Bwrdd Iechyd Blaenau Gwent
- Awdurdod Tân De Cymru
- Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
- Gwasanaeth Prawf
- Timau Troseddau Ieuenctid
Rydym yn cydnabod na all yr un Asiantaeth fynd i’r afael gyda throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol wrth ei hun. Mae gweithio mewn partneriaeth yn ein galluogi ni i gyfuno'r arbenigedd ac adnoddau sydd eu hangen i gwrdd ag anghenion a blaenoriaethau eich cymunedau.




