Mae dewis y math cywir o ofal plant yn benderfyniad pwysig a phersonol iawn; mae’r math gorau o ofal plant ar eich cyfer yn dibynnu ar eich sefyllfa deuluol.
Gall y mathau gwahanol o ddarpariaeth swnio’n ddryslyd hen wybodaeth ddigonol. Rydym yn anelu i sicrhau eich bod yn gallu gwneud dewis hysbysedig, gan wybod eich bod wedi ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael.
Y dewisiadau gofal plant mawr yw Gofalwyr plant, Meithrinfeydd dydd neu Glybiau plant Tu Allan i Oriau Ysgol. Yn ychwanegol, mae Grwpiau Chwarae a Meithrinfeydd yn cynnig gofal a gweithgareddau ar gyfer plant nad ydynt o oedran ysgol, yn aml am ran o’r dydd yn unig.
Mae’n rhaid i unrhyw ddarparydd y mae plant o dan wyth oed yn cael eu gofalu amdanynt am gyfnod o ddwy awr neu’n fwy cofrestru gyda’r Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGC) yn unol â gofynion Deddf Plant 1989.
Gellir cael manylion pellach am y safonau gofynnol oddi wrth Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.
Efallai y bydd rhai llefydd wedi ennill dyfarniad sicrwydd safon. Efallai y byddwch am wirio hyn gyda’r darparwyr unigol.
Mae yna amrywiaeth mawr o lefydd Gofal plant ac Addysg Blynyddoedd Cynnar. Gall mwy o fanylion gael eu canfod yn yr adran briodol o’r wefan yma.
Bydd eich Gwasanaeth Gwybodaeth Plant yn medru cynnig cyngor a chanllaw ar yr holl faterion gofal plant.





